07717 537034 neu 01591 611067

info@forestcottages.co.uk

Menu

Mae yna rywbeth i bawb ym Mythynnod Coed Trallwm...

EIN BYTHYNNOD MEWN COEDWIG YNG NGHANOLBARTH CYMRU

Prev
Magpie cottage

Magpie

Lle i 2 gysgu

Nant Garreg cottage

Nant Garreg

Lle i 4 gysgu

Trallwm Farmhouse

Trallwm Farmhouse

Lle i 7 gysgu

Trawsgyrch cottage

Trawsgyrch

Lle i 9/10 gysgu

Siskin cottage

Siskin

Lle i 2 gysgu

Kestrel cottage

Kestrel

Lle i 4 gysgu

Red Kite cottage

Red Kite

Lle i 4 gysgu

Tawny Owl cottage

Tawny Owl

Lle i 4 gysgu

Heron cottage

Heron

 

Raven cottage

Raven

 

Next

Mae gennym ni 8 o fythynnod gwyliau hunanddarpar, â lle i rhwng 2 a 10 o bobl gysgu. Mae’r bythynnod yng nghalon Canolbarth Cymru yn ein coetir gweithiol preifat 400 erw sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r bythynnod yn gymysgedd o adeiladau Cymreig traddodiadol ac ysguboriau carreg sydd wedi’u trosi. Ym Mythynnod Coed Trallwm rydych chi’n cael mwy na bwthyn; yma, mae yna dir agored i anturio trwyddo, pedwar llwybr beicio mynydd, llwybr chwarae, ystafell gemau, pwll wedi’i dirlunio, llawer o lwybrau cerdded, a mwy o lawer. Mae teuluoedd, cyplau a grwpiau o ffrindiau’n dychwelyd dro ar ôl tro i’n bythynnod yn y goedwig. Am fwy na 30 o flynyddoedd, mae’r bythynnod traddodiadol Cymreig cynnes a chyfforddus hyn o lechi a cherrig wedi bod yn sail wych i anturio trwy brydferthwch ac atyniadau Canolbarth Cymru.

Lle gwych i gael gwyliau egnïol, i ddod â ffrindiau yn ôl at ei gilydd neu i ffoi i gael seibiant rhamantus o flaen y stofiau llosgi pren – mae yna fwthyn sy’n addas i chi ym Mythynnod Coed Trallwm.

Our location

Lleoliad

Mae Coed Trallwm yn swatio yng nghalon Canolbarth Cymru. Mae’r bythynnod i’w cael yma ac acw trwy’r goedwig, rhwng y coed. Mae’r lleoliad canolog gwych yng Nghanolbarth Cymru’n golygu bod Bythynnod Coed Trallwm yn lle delfrydol i fanteisio ar lawer o’r atyniadau gorau a’r golygfeydd ysblennydd sydd gan Gymru i’w cynnig, fel Cronfa Ddŵr Llyn Brianne, Penrhuddfa, Cwm Elan, Llanfair-ym-muallt, Llanwrtyd, Bannau Brycheiniog, a mwy o lawer. Mae yna lawer o drefi hanesyddol gerllaw, fel tref farchnad Llanfair-ym-muallt, sef cartref Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, a dim ond 7 milltir i ffwrdd mae Llanwrtyd, sy’n enwog am ddigwyddiadau fel Snorcelu Corsydd, y Ras Dyn yn Erbyn y Ceffyl a Gŵyl Gwrw Canolbarth Cymru. Mae yna hefyd lawer o dafarnau a bwytai gerllaw.

Cael Gwybod Mwy

Trallwm Cottages logo

Mwy O Lawer...

Yma ym Mythynnod Coed Trallwm rydych chi’n cael mwy na dim ond bwthyn hunanddarpar. Mae popeth gennym ni i wneud eich amser yma’n gofiadwy, gan gynnwys trawstiau derw, stofiau sy’n llosgi pren, ystafell gemau, cyfleoedd i wylio adar, gweithgareddau adeiladu ffeuau yn y coed, anturio trwy’r goedwig, chwarae mewn nentydd, basgedi bwyd, llwybrau beicio mynydd, teithiau cerdded, twb poeth, ieir, golygfeydd ysblennydd, coetir gweithiol, heddwch, syllu ar y sêr, dim goleuadau stryd...…

Mountain Biking

Beicio Mynydd

Mae gennym ni bedwar llwybr beicio mynydd ar ein safle yng Nghoed Trallwm, sydd o fewn cyrraedd rhwydd i’ch bwthyn.

Games Room

Ystafell Gemau

Gallwch fwynhau’r bwrdd pŵl a phêl-droed pen-bwrdd yn ein Hystafell Gemau.

Walking

Cerdded

Mae gennym ni 400 erw o goetir gweithiol preifat, yn ogystal â mwy na 15km o lwybrau i fynd am dro arnyn nhw. 

Bird Watching

Gwylio Adar

Mae gennym ni amgylchedd gwych i adar di-rif ym Mythynnod Coed Trallwm. Fe ddylech, yn bendant, weld y Cudyll Coch, y Bwncath, y Barcud Coch, y Tingoch, y Titw, y Siglen, Cnocell y Coed, Sgrech y Coed, y Pila Gwyrdd a Delor y Cnau, ymhlith eraill.

Mwy O Weithgareddau